Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Mehefin 2020
Amser:
12.55 -
16.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6351
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AS Gareth Bennett AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Duncan Hamer, Llywodraeth Cymru Sioned Evans, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ymateb i Lywodraeth Cymru ynghylch addasiadau tai.
3.1 Cafodd Andrew Slade, Sioned Evans, Duncan Hamer ac Emma Watkins eu holi gan yr Aelodau fel rhan o'u hymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau a chanolbwyntiwyd yn benodol ar effaith economaidd Covid-19.
3.2 Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am nifer o bwyntiau gweithredu.
3.3 Dywedodd y Cadeirydd wrth y tystion y byddai'n ysgrifennu atynt gan ofyn y cwestiynau na chafodd eu gofyn yn ystod y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi barn y Pwyllgor.
6.1 Yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 15 Mehefin 2020, bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin yn trafod Trosolwg diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o ymateb Llywodraeth y DU i bandemig COVID-19. Gwahoddwyd y Pwyllgor i gyflwyno unrhyw sylwadau yn y cyswllt hwn.
6.1 Nododd yr Aelodau’r Adroddiad a’i drafod, a bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu i roi sylwadau erbyn i’r mater gael ei drafod yn eu cyfarfod.
7.1 Yn amodol ar un ychwanegiad bach, cytunwyd ar yr adroddiad a bydd trefniadau i’w gyhoeddi ym mis Mehefin 2020.